06) Yn ogystal a ffactorau eraill, mae’r bylchau a nodir yma yn greiddiol ar gyfer diwallu gwasanaeth gyflawn. Nid hawdd yw dadansoddi’r cyflwr/angen bob amser sy’n gofyn am ymateb ar ddau lefel, o leiaf.

-        Nid oes disgwyl i rieni fod yn ymwybodol o’r angen, ond dylai fod gan berson proffesiynol sy’n delio â phlentyn, boed hyn yn y Gwasanaeth Iechyd,Addysg neu Gymdeithasol, fod â digon o ymwybyddiaeth a gwybodaeth i wybod pryd i gyfeirio’r plentyn ymlaen am ymholiad pellach.

-        Mae gofyn i’r plentyn gael ei gyfeirio at berson gydag arbenigedd yn y maes diagnostig, megis meddyg neu Seicolegydd Addysgol.

Felly, mae gofyn bod addysgu wedi digwydd i’r personau proffesiynol yn y lle cyntaf i adnabod yr angen er mwyn cyfeirio ymlaen. Wedyn, mae’n rhaid bod digon o arbenigwyr ar gael i wneud y diagnosis cywir ac i awgrymu pa gamau dylid eu cymeryd i ymateb i’r angen dydd i ddydd.

Felly, dylai’r Ddeddf osod rheidrwydd ar y colegau bod eu cyrsiau cychwynol (iechyd neu addysg) yn cynwys elfennau fyddai’n paratoi y darpar bobl broffesiynol ar gyfer y cam cyntaf. Hefyd, dylai’r Gwasanaethau Iechyd, Addysg a Chymdeithasol fod o dan reidrwydd i baratoi’r ail lefel o wasanaeth yn ddigonnol.

11, 12, 13) Cytuno. Ond hoffwn weld y term ‘achlysurol’ yn cael ei newid i ‘rheolaidd’. Byddai adolygiad a diweddariad strategaeth cenedlaethol ddigwydd bob 5 mlynedd, o leiaf – 2fl i’w sefydlu a 3ml i’w weithredu cyn diweddaru.  Mae’n rhaid i unrhyw strategaeth a chanllawiau fod yn glir a hollol ddiamwys. Os oes yna unrhyw ffordd o ddiffinio rhain i olygu rhywbeth gwahanol, fe wneir hynny – i ffitio’r gofynion lleol!

Digwyddodd hyn yn yr 80au cynnar mewn canllawiau i ddosbarthu anghenion addysgol arbennig ar ffurf disgrifiadau o’r anghenion. Roedd y diffiniad a roddwyd gan yr AALl yn dra gwahanol i ddiffiniad y personau proffesiynol oedd yn delio â’r plant o ddydd i ddydd a hyn, wrth gwrs, i wneud y gwasanaeth yn llai costus ac nid er mwyn lles y plant.

Dylai’r gwasanaethau cyhoeddus gadw tystiolaeth o’r camau a gymerir i gefnogi pobl hefo awtistiaeth ac awgrymaf y dylai gwasanaeth fel ESTYN fod yn gyfrifol am gasglu a choladu ar ran Llywodraeth Cymru.

Felly, clir a diamwys ddylai fod y nôd.

15) Cytuno ei bod yn bwysig cael llwybr clir i ddiagnosis ond credaf y dylai’r gwasanaethau hefyd weithio yn llawer nes i’w gilydd a sicrhau eu bod cytuno ar y llwybr i’w ddilyn. Byddai hyn yn ei gwneud yn haws i rai gydag awtistiaeth ac i’w teuluoedd ddeall yr hyn sy’n cael ei gynnig a hefyd ei gwneud yn haws cynnig gwasanaeth mwy cyflawn a chydol oes.

Mae’n hanfodol rhoi cyfrifoldeb ar y gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau gwasanaeth clir a chydlynol.

Awgrymiad pellach:

Credaf y dylai’r Ddeddf osod cynsail i orfodi’r gwasanaethau cyhoeddus (iechyd, addysg a chymdeithasol) i ddod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth cyflawn. Er mwyn hwyluso hyn efallai y dylid ystyried sefydlu uned neu dîm  ym mhob sir/ardal fyddai’n cydlynu’r holl waith, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ac adnoddau. Dylai hyn fod yn ffordd gost-effeithiol o gynnig gwasanaeth fwy cyflawn ac integredig. Hefyd, byddai hyn yn hwyluso datblygu a monitro gwasanaeth safonol drwy Gymru.

Evan Jones MAdd